Manylion am Gyngor ar Bopeth Sir Ddinbych

CAD Suitcase

Ein nodau deuol yw:

  • daparu’r cyngor sydd ei angen ar bobl i ymdrin â’r problemau maen nhw’n eu wynebu; a

  • gwella’r polisïau a’r egwyddorion sy’n effeithio ar fywydau pobl. 

Er mwyn cyflawni’r nodau hyn, mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn gweithio gyda phartneriaid (yn genedlaethol ac yn lleol) i ddarparu gwasanaeth hygyrch, cynhwysfawr o’r ansawdd uchaf. Ein cenhadaeth yw lleihau tlodi, gwella cydnerthedd ariannol a phersonol, atal digartrefedd a chyfrannu at wella llesiant yn ein cymuned. 

Credwn y dylai pawb fedru cael cyngor a chymorth beth bynnag yw eu hamgylchiadau personol a’u nodweddion personol ac rydym ni wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein prosiectau a’n prosesau cyflogaeth. 

Rydym yn elusen annibynnol a ymgorfforwyd a chofrestrwyd fel elusen yn 2005 pan unodd dau sefydliad blaenorol - Gogledd Sir Ddinbych a De Sir Ddinbych - i fod yn Ganolfan Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych. Yn dilyn ail-frandio Canolfan Cyngor ar Bopeth yn genedlaethol yn 2015, daethom yn adnabyddus fel Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych (CAD).

Gall pob un ohonom ni wynebu problemau sy’n ymddangos yn gymhleth neu’n frawychus. Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn credu na ddylai unrhyw un orfod wynebu’r problemau hyn heb gyngor annibynnol, ansawdd uchel. 

Dyna pam rydym ni yma i roi’r wybodaeth a’r hyder sydd ei angen ar bobl i ganfod eu ffordd ymlaen – pwy bynnag ydyn nhw a beth bynnag yw eu problem.