Croeso i
Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych.
Mae ein helusen yn darparu cyngor a chymorth diduedd, annibynnol, mewn cyfrinachedd ac am ddim i bawb.
Gall pob un ohonom ni wynebu problemau sy’n ymddangos yn gymhleth neu’n frawychus. Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn credu na ddylai unrhyw un orfod wynebu’r problemau hyn heb gyngor annibynnol, ansawdd uchel.
Dyna pam rydym ni yma i roi’r wybodaeth a’r hyder sydd ei angen ar bobl i ganfod eu ffordd ymlaen – pwy bynnag ydyn nhw a beth bynnag yw eu problem.
Gwe-sgwrs
* Yn dod yn fuan *
Cadwch lygad ar waith ein helusen yn y gymuned drwy lawrlwytho ein cylchlythyr chwarterol, Cyngor yn y Gymuned.
Gallwch siarad â'n cynghorwyr ar-lein, drwy sesiynau galw heibio, drwy roi galwad ffôn i ni ar ein llinellau cymorth am ddim, neu drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Ein heffaith yn 2024-25:
6,899 o gleientiaid wedi derbyn sylw gyda dros 8000 o wahanol faterion.
£12.9m o enillion incwm i bobl yn Sir Ddinbych.
£16.9m o ddyledion wedi’u rheoli i bobl yn Sir Ddinbych.
Darllenwch fwy am ein heffaith yn ein cymuned yn 2024-25 drwy lawrlwytho ein hadroddiad blynyddol drwy'r botwm isod.
Cysylltwch gyda ni
Rydym ni yma i roi cyngor diduedd, annibynnol, mewn cyfrinachedd ac am ddim i chi dim ots pwy ydych chi neu beth yw eich anghenion chi. Cewch gysylltu gyda chynghorydd drwy lenwi’r ffurflen hon a gwnaiff un o’n cynghorwyr gysylltu gyda chi gynted ag y bo modd.
Rydych chi’n cytuno, drwy lenwi’r ffurflen hon, y bydd Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn storio ac yn prosesu’r data rydych chi’n ei ddarparu at ddibenion rhoi cyngor yn unig ac rydych chi’n cydsynio i’n cynghorwyr gysylltu gyda chi at ddibenion rhoi cyngor a chymorth. Cewch ddarllen am sut rydym ni’n storio eich data chi yn ein Polisi Preifatrwydd.