Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yma i’ch helpu chi dim ots beth yw eich amgylchiadau chi na waeth beth yw’r materion sy’n achosi pryder.
Medrwch gysylltu gyda’n gwasanaethau ni mewn nifer o ffyrdd – drwy siarad gyda’n cynghorwyr ar-lein, cyfarfod wyneb yn wyneb, ein ffonio ni neu ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Bydd y botymau isod yn rhoi mwy o wybodaeth i chi ynghylch cysylltu gyda ni.
Mae ein meysydd cyngor yn amrywio o gyngor ynghylch budd-daliadau lles a dyledion i gymorth gyda biliau ynni, cyflogaeth, cymorth cyfreithiol a materion defnyddwyr. Cliciwch ar y lluniau isod i ganfod rhagor o wybodaeth am sut y medrwn ni eich helpu chi.
Dyled ac arian
Am wybodaeth ar reoli dyledion, cliciwch y botwm isod. Os oes angen i chi siarad â chynghorydd dyledion ffoniwch 01745 346903
Dydd Llun - 9.30am i 3.30pm
Dydd Mercher - 9.30am i 3.30pm
Dydd Gwener - 9.30am i 3.30pm
Budd-daliadau lles
Mae’n bwysig gwneud yn siwr eich bod chi’n derbyn yr holl gymorth mae gennych chi’r hawl iddo. P’un ai ydych chi’n gweithio, yn ddiwaith, yn sâl neu’n anabl, yn rhiant, yn berson ifanc, yn berson hŷn neu’n gyn-filwr, cewch ragor o wybodaeth isod.
Teulu
Gall ein cynghorwyr roi cyngor a chymorth i chi am faterion yn ymwneud â’r teulu. O bethau fel byw gyda’ch gilydd a sut y gallai hyn effeitho ar eich hawliadau, priodas a phartneriaeth sifil, tor-perthynas a gwahanu, trefniadau ynghylch plant, marwolaeth ac ewyllysiau a rhagor. Cewch ragor o wybodaeth drwy glicio isod.
Ynni a thanwydd
Os nad oes gennych chi ddigon o arian i dalu costau byw, efallai y medrwch chi gael cymorth i fforddio hanfodion fel biliau a bwyd. Mae hyn yn cynnwys taliadau costau byw, rhai budd-daliadau lles a chefnogaeth i drafod gyda’ch cyflenwr ynni. Cliciwch isod i gael rhagor o wybodaeth.
Cyflogaeth
Mae gan bawb hawliau a mesurau diogelu penodol yn y gweithle, dim ots beth neu ble mae eu swydd, ac mae’n bwysig gwybod eich hawliau. I gael gwybodaeth ynghylch gwirio eich statws cyflogaeth, anghydfodau cytundebol, sicrhau eich bod chi ar y gyfradd cyflog cywir, yr hawl i dâl salwch a rhagor, cliciwch isod.
Cael cymorth cyfreithiol
Mae gennych chi hawliau a chyfrifoldebau fel trigolion yn y Deyrnas Unedig. Cliciwch ar y botwm isod i ganfod mwy am hawliau cyfreithiol a hawliau sifil, beth i’w wneud os ydych chi wedi dioddef o wahaniaethu, sut y dylech chi gael eich trin gan yr heddlu a’r systemau garchardai, a rhagor.
Tai a digartrefedd
Cliciwch isod i ddod o hyd i wybodaeth am sut i brynu neu rhentu cartref neu sut i ddod o hyd i rywle i fyw ynddo. Medrwch ganfod cyngor ar sut i ymdrin â phroblemau gyda’ch landlord a’ch helpu i osgoi colli eich cartref hefyd.
Mewnfudo
Mae’n bwysig eich bod chi’n gwybod eich hawliau, eich cyfrifoldebau a’r mesurau sy’n eich diogelu yma yn y Deyrnas Unedig. Am ragor o wybodaeth am fisas, dinasyddiaeth, budd-daliadau a gwasanaethau, ceisio lloches a statws ffoadur, cyngor os ydych yn wynebu cael eich allgludo a rhagor, cliciwch ar y botwm isod.
Unrhyw faterion eraill
Byddwn yn ceisio rhoi’r wybodaeth, y cyngor a’r cymorth sydd ei angen arnoch i wneud y dewisiadau cywir i chi. Cliciwch isod i fynd i wefan Cyngor ar Bopeth Cymru a chanfod gwybodaeth am ystod eang o faterion.