Telerau ac amodau

1. Eich defnydd o’r wefan hon

Pan fyddwch chi’n defnyddio’r wefan hon ni ddylech wneud unrhyw beth sy’n erbyn y gyfraith neu a allai achosi trallod neu anghyfleustra i unrhyw un arall. 

Peidiwch â cheisio cael mynediad diawdurdod i’r wefan hon neu ei chamddefnyddio’n wybyddus drwy gyflwyno firysau, ceffylau Troia, pryfed genwair, bomiau rhesymeg nac unrhyw ddeunydd niweidiol arall. 

Mae’r wybodaeth ar y wefan hon i roi arweiniad cyffredinol i’ch hawliau a’ch cyfrifoldebau chi – nid yw’n gyngor cyfreithiol. 

2. Ein hatebolrwydd

Rydym ni wedi ceisio gwneud yn siwr bod y wybodaeth rydym ni’n ei rhoi yn gywir. Mae hyn yn cynnwys y wybodaeth a roir:

  • ar y wefan hon

  • drwy neges e-bost

  • wrth sgwrsio gyda ni ar-lein

Mae bod yn ‘atebol’ yn golygu bod yn gyfrifol am rhywbeth yn gyfreithiol.

Nid ydym yn atebol am unrhyw golled, difrod neu anghyfleustra rydych chi’n ei ddioddef o ganlyniad i:

  • ddefnyddio’r wefan hon

  • gysylltu gyda ni drwy neges e-bost

  • ddefnyddio ein cyfleuster sgwrsio ar-lein

Dyma’r achos yng nghyn belled ag y bo’r gyfraith yn caniatáu, p’un ai yw’r golled, y difrod neu’r anghyfleustra yn deillio o gontract, ‘tort’ neu unrhyw ffynhonnell arall. 

‘Tort’ yw’r enw a roir i faes yn y gyfraith sy’n ymwneud â phobl sydd mewn sefyllfaoedd o gyfrifoldeb. Mae’n eu gwneud yn atebol os nad ydynt yn cyflawni’r ymrwymiadau cyfreithiol sy’n mynd gyda’u sefyllfa. 

Mae hyn yn golygu nad ydym ni’n atebol am:

  • unrhyw golledion data neu elw

  • ymyriadau neu oedi i’r wefan

  • pan y medrwn neu na fedrwn ni ddarparu gwasanaeth

  • unrhyw wybodaeth, deunydd, nwyddau a gwasanaethau a gafwyd drwy’r wefan 

Medrwn barhau i fod yn atebol am farwolaeth neu anaf bersonol a achoswyd gan ‘esgeulustod’. Esgeulustod yw pan nad yw sefydliad neu unigolyn yn cymryd y gofal a ddylent wrth wneud rhywbeth. 

Cewch ddarllen diffiniad cyfreithiol llawn esgeulustod yn y Ddeddf Telerau Contract Annheg 1977, sydd ar wefan deddfwriaeth y llywodraeth.

Hefyd medrwn fod yn atebol am dwyll neu wneud sylwadau twyllodrus, sef pan mae rhywun yn dweud pethau maen nhw’n wybod nad ydynt yn wir er mwyn eu budd eu hunain. 

3. Hawliadau gan drydydd partïon

Ein nod yw darparu gwasanaeth ansawdd uchel, ond ni fedrwn warantu y bydd yn ddi-dor nac yn rhydd o wallau.

Nid ydym yn gyfrifol os yw ‘trydydd parti’ yn cyflwyno hawliad ar sail eich defnydd chi o’n gwefan.

Trydydd partïon yw pobl neu sefydliadau ac eithrio chi neu ni.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau rydym ni’n rhannu dolenni iddyn nhw. Drwy gynnwys dolenni nid ydym yn cymeradwyo’r gwefannau cysylltiedig ac nid oes gennym gysylltiad â’r bobl sy’n eu cynnal. Ni fedrwn reoli argaeledd tudalennau trwy ddolenni i wefannau eraill. 

4. Cysylltu gyda ni drwy neges e-bost

Pan fyddwch chi’n cysylltu gyda ni drwy neges e-bost, ni fedrwn warantu fod y wybodaeth a anfonir neu a dderbynnir:

  • yn cael ei ddal, ei amharu, ei oedi neu ei fod yn anghyflawn

  • yn cynnwys firysau

  • wedi’i effeithio gan amhariad arall

Nid ydym yn atebol am unrhyw niwed sy’n digwydd oherwydd y neges e-bost.

Nid yw ein negeseuon e-bost yn ddiogel. Nid ydym yn gyfrifol am ddiogelwch y wybodaeth sy’n cael ei storio ar unrhyw ddyfais electronig rydych chi’n ei defnyddio. 

Mae unrhyw wybodaeth a rennir gennym ni drwy neges e-bost wedi’i fwriadu ar gyfer yr unigolyn y’i cyfeirir ato. Dim ond yr unigolyn rydym ni’n ei gynghori ddylai weithredu ar sail y wybodaeth rydym ni’n ei rhoi iddyn nhw.

 

5. Hawlfraint

Mae popeth ar y wefan hon wedi’i diogelu gan hawlfraint – mae hyn yn cynnwys yr holl destun a’r holl ddelweddau. 

Cyngor ar Bopeth sy’n meddu ar hawlfraint holl gynnwys y wefan hon, ac eithrio lle rydym ni’n nodi ei fod yn eiddo i rywun arall. 

Ni chewch rannu na chopïo unrhyw ran o’r wefan hon neu’r is-dudalennau ar gyfer unrhyw ddibenion ‘mashacnol’. Ystyr masnachol yw gwerthu rhywbeth i wneud arian. 

Golyga hyn na chaniateir i chi gopïo, ailgynhyrchu, ailgyhoeddi, lawrlwytho, postio, darlledu na throsglwyddo mewn unrhyw fodd,  oni bai ei fod at eich defnydd personol ac anfasnachol eich hun. 

Rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan y perchennog hawlfraint os ydych chi am ddefnyddio unrhyw beth ar y wefan hon am reswm gwahanol.