“Roeddwn i eisiau bod yn rhan o dîm eto, ac eisiau dysgu sgiliau newydd a rhoi rhywbeth yn ôl i fy nghymuned.

Ar ôl ymddeol mae gwirfoddoli yn rhoi pwrpas i mi ac, yn ystod y cyfnod clo, roedd yn gyswllt gyda’r byd y tu allan.”   

John Davies, athro ysgol wedi ymddeol a gwirfoddolwr

Bod yn Ymddiriedolwr

Os hoffech chi gynorthwyo gyda llywio Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych efallai y bydd bod yn ymddiriedolwr o ddiddordeb i chi. 

Daw’r ymddiriedolwyr o amrywiaeth o gefndiroedd gyda sgiliau amrywiol ac maen nhw’n sicrhau ein bod ni’n gweithio er budd y cyhoedd ac yn rheoli ein hadnoddau mewn modd cyfrifol. 

Cyfleoedd taledig

Rydym ni’n cyflogi’r hyn sy’n cyfateb i 32 o staff llawn amser ar hyn o bryd i helpu ein dinasyddion. 

Mae’r swyddi yn amrywio o rai cyllid ac Adnoddau Dynol i gynghorwyr cyffredinol ac arbenigol, a bydd cyfleoedd i ymuno efo’r tîm yn cael eu dangos yma. 

Cymrwch ran efo Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych

Mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn elusen leol sy’n cynnwys gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a staff cyflogedig. 

P’un ai ydych chi’n awyddus i ateb galwadau ffôn a helpu pobl i ddod o hyd i’r wybodaeth gywir, yn awyddus i lywio’r elusen i gyflawni ei phwrpas neu i ddefnyddio eich sgiliau a’ch profiad i helpu’r gymuned, mae swydd i chi yng Nghyngor ar Bopeth Sir Ddinbych. 

Bod yn Wirfoddolwr

Gwnewch wahaniaeth go iawn i fywydau pobl yn Sir Ddinbych drwy wirfoddoli gyda ni. 

Byddwch yn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr a chymorth llawn, yn cryfhau sgiliau gwerthfawr fel cyfathrebu a datrys problemau ac yn cyfarfod pobl o’r un anian o wahanol gefndiroedd o bob rhan o’r sir. 

Cymrwch ran heddiw

Cysylltwch gyda ni drwy lenwi’r ffurflen hon a gadael i ni wybod sut yr hoffech chi gymryd rhan gyda Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych. 

Byddwn yn cysylltu gyda chi’n fuan am sgwrs ac i roi rhagor o wybodaeth i chi.