Cyfleoedd taledig
Os ydych chi’n chwilio am rolau gwirfoddol, yn cynnwys bod yn ymddiriedolwr, ewch i’n tudalen Ymunwch gyda ni, llenwi’r ffurflen ac fe wnawn gysylltu gyda chi i roi rhagor o wybodaeth i chi.
Cynghorydd Cyffredinol
Mae hwn yn gyfle cyffrous i’n cynorthwyo ni i fodloni’r galw cynyddol am ein gwasanaethau.
Rydym yn chwilio am Gynghorwr Cyffredinol i’n helpu i ddarparu gwasanaeth cynghori effeithlon ac effeithiol i aelodau’r cyhoedd drwy apwyntiadau wyneb yn wyneb a dros y ffôn, ac i helpu i ddylanwadu ar y llywodraeth a mudiadau eraill drwy roi gwybod iddyn nhw am effaith eu gweithredoedd ar fywydau ein trigolion.
Byddwch yn cael eich hyfforddi i ddefnyddio ein system a’n prosesau, gan sicrhau eich bod yn meddu ar yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo a ffynnu yn y swydd hon, gyda’r cyfle i wneud cynnydd yn ein sefydliad.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sy’n cael eu gwahodd i gyfweliad roi cyflwyniad cryno ar ddechrau’r cyfweliad. Rhoir manylion llawn am hyn yn y llythyr gwahoddiad i gyfweliad.
Anfonwch ffurflenni cais wedi’u llenwi i finance@dcab.co.uk os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau: 17:00 Dydd Gwener, 26 Medi 2025.