Sut rydym yn defnyddio eich data wrth ddefnyddio ein gwefan
Mae’r adran hon yn ymdrin â sut rydym yn defnyddio’ch data pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan.
Mae Cyngor ar Bopeth Cenedlaethol yn cwmpasu eu defnydd o ddata pan fyddwch yn defnyddio eu gwefan yn eu hysbysiad preifatrwydd.
______________________
Y wybodaeth a gasglwn
Rydym yn casglu gwybodaeth gyfyngedig am ddefnyddwyr ein gwefan er mwyn
gwella ein gwasanaethau a’n presenoldeb ar-lein. Mae hyn yn cynnwys:
Data am y defnydd a wneir o’r wefan sy’n cael ei gasglu drwy Squarespace
(e.e., y tudalennau a agorwyd, yr amser a dreuliwyd ar y safle, a ffynonellau
cyfeirio).
Data a gasglwyd drwy gwcis, sy’n ein helpu i wella’r ffordd y mae ein gwefan yn
gweithio a phrofiad y defnyddiwr.
Gwybodaeth bersonol a anfonwyd i mewn drwy ffurflenni ar-lein. I ganfod
rhagor ynglŷn â sut yr ydym yn defnyddio’r wybodaeth hon, gwelwch yr
adrannau Sut y defnyddiwn eich data ar gyfer cyngor neu Sut y defnyddiwn
______________________
Sut rydym yn casglu eich gwybodaeth
Rydym yn casglu gwybodaeth yn y ffyrdd canlynol:
Cwcis – Rydym yn defnyddio cwcis i olrhain perfformiad gwefan, dadansoddi
ymddygiad defnyddwyr, a gwella ymarferoldeb. Mae rhai cwcis yn hanfodol ar
gyfer gweithredu'r safle, tra bod eraill yn ein helpu i wella ein cynnwys a'n
marchnata. Gallwch reoli dewisiadau cwcis trwy osodiadau eich porwr.
Squarespace Analytics – Rydym yn defnyddio Squarespace Analytics i fesur sut
mae ymwelwyr yn rhyngweithio â’n gwefan. Mae'r gwasanaeth hwn yn casglu
data dienw am ymddygiad defnyddwyr, megis pa dudalennau yr ymwelir â hwy
a sut mae defnyddwyr yn llywio'r wefan. Mae Squarespace Analytics yn cadw
data gwefan dienw am hyd at 26 mis. Gweler Polisi Preifatrwydd
Squarespace am ragor o fanylion.
Trwy’r wybodaeth y mae defnyddwyr y wefan yn ei rhoi mewn ffurflenni ar y
wefan - rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i gysylltu â chi mewn e-bost, ar
WhatsApp, Messenger neu SMS (neges destun) i ymdrin â’ch cais am
wybodaeth neu gyngor, neu i gydnabod adborth.
______________________
Ar gyfer beth rydym yn defnyddio eich gwybodaeth
Rydym yn defnyddio data gwefan i:
Monitro a gwella perfformiad gwefan a hygyrchedd.
Dadansoddi tueddiadau i wella profiad y defnyddiwr.
Sicrhau bod ein gwefan yn parhau’n ddiogel ac yn gweithio’n iawn.
Ymateb i geisiadau am wybodaeth a chyngor ac i gydnabod adborth.
______________________
Sut rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan
Mae cwcis yn ein helpu i ddeall sut mae defnyddwyr yn rhyngweithio â'n gwefan a
gwella eu profiad. Rydym yn defnyddio:
Cwcis Hanfodol - Yn ofynnol ar gyfer swyddogaethau craidd, megis diogelwch
a hygyrchedd (a elwir yn “friwsionyn” sy’n dod i ben pan fydd sesiwn pori’r
defnyddiwr yn dod i ben).
Cwcis Dadansoddeg - Defnyddir gan Squarespace i gasglu data dienw ar
berfformiad gwefan ac ymddygiad defnyddwyr.
______________________
Sut yr ydym yn defnyddio mewnbwn y defnyddiwr ar ein gwefan
Mae mewnbwn y defnyddiwr yn gadael i’n staff ymateb i’ch ceisiadau a’ch adborth.
Rydym yn casglu mewnbwn y defnyddiwr ar gyfer:
Adborth gan ddefnyddwyr y gwasanaeth – Rydym yn gofyn a fyddech chi’n
hoffi darparu adborth am ein gwasanaeth. Os byddwch yn cytuno, byddwn yn
anfon dolen atoch chi mewn e-bost, ar WhatsApp, Messenger neu SMS (neges
destun) i gwblhau ffurflen adborth ar ein gwefan.
Rydym yn prosesu adborth drwy ychwanegu’r wybodaeth i daenlen sydd wedi’i
storio’n ganolog yn ddiogel ar ein Google Drive. Mae eich ffurflen adborth
gyflawn yn aros ar ein gweinydd gwefan ddiogel nes y bydd wedi’i phrosesu a’i
dileu.
Rydym yn cadw’r holl gofnodion o adborth ar ein Gyriant Google am ddwy
flynedd cyn gwneud y wybodaeth yn ddienw. Mae hyn yn sicrhau y gallwn
adolygu tueddiadau a gwella ein gwasanaeth gan hefyd diogelu eich
preifatrwydd.
Ceisiadau am wybodaeth a/neu gyngor – Gall defnyddwyr gyrraedd
gwasanaethau Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych drwy’r ffurflen ar ein tudalen
Mae’r ffurflen hon yn casglu gwybodaeth am yr amser a’r dyddiad pan anfonir y
ffurflen, eich enw cyntaf ac olaf, sut yr hoffech i rywun gysylltu â chi, eich
cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, ac a ydych yn aelod o Gymuned y Lluoedd Arfog, a
ydych yn ofalwr, a gwybodaeth yr hoffech ei chynnwys ynglŷn â sut y gallwn
helpu.
Anfonir y wybodaeth hon yn uniongyrchol o’n gwefan i’n mewnflwch
gwasanaeth cynghori, lle bydd cynghorwr yn defnyddio’r mewnbwn
gwybodaeth i helpu i roi gwybodaeth a chyngor pellach am y mater sydd
gennych dan sylw.
______________________
Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth
Rhennir data defnydd gwefan gyda Squarespace, ond nid yw'n eich adnabod chi'n
bersonol.
Nid ydym yn gwerthu nac yn rhannu eich data gyda thrydydd partïon at ddibenion
marchnata.
______________________
Ein sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth
Diddordeb Cyfreithlon – Mae gennym fuddiant cyfreithlon i brosesu data i
ddadansoddi a gwella perfformiad ein gwefan a phrofiad y defnyddiwr.