Sut yr ydym yn defnyddio eich data ar gyfer ymchwil, adborth ac ystadegau

Mae'r adran hon yn ymdrin â sut rydym yn defnyddio'ch data i gynnal adborth.

Mae Cyngor ar Bopeth Cenedlaethol yn cwmpasu eu defnydd o ddata at y diben hwn yn eu hysbysiad preifatrwydd.

______________________

Sut rydym yn casglu eich gwybodaeth

Gofynnwn a hoffech roi adborth ar ein gwasanaeth. Os ydych yn cytuno, byddwn yn

anfon dolen atoch trwy e-bost, WhatsApp neu SMS (neges destun) i gwblhau

ffurflen adborth ar ein gwefan.

Rydym yn prosesu adborth trwy ychwanegu'r wybodaeth at daenlen ganolog sydd

wedi'i storio'n ddiogel ar ein Google Drive. Mae eich ffurflen adborth wedi'i

chwblhau yn aros ar ein gweinydd gwefan diogel nes iddi gael ei phrosesu a'i dileu.

Rydym yn derbyn adroddiadau chwarterol dienw gan y Cyngor ar Bopeth mewn

perthynas ag adborth drwy ein system rheoli achosion, yn Google Drive am ddwy

flynedd cyn gwneud y wybodaeth yn ddienw. Mae hyn yn sicrhau y gallwn adolygu

tueddiadau a gwella ein gwasanaeth gan hefyd ddiogelu eich preifatrwydd.

______________________

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu

Gofynnwn am eich adborth neu sylwadau ar sut y gallwn wella ein gwasanaeth gan

gynnwys sut y gwnaethoch gysylltu â ni a sut y clywsoch am ein gwasanaeth.

Rydym hefyd yn gofyn am eich enw a manylion cyswllt ond nid oes rhaid i chi

ddarparu hyn.

______________________

Ar gyfer beth rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Rydym yn defnyddio eich adborth i'n helpu i adolygu a gwella ein

gwasanaethau. Rydym hefyd yn defnyddio'r wybodaeth hon i adolygu sut mae pobl

yn defnyddio ein gwasanaeth a sut rydym yn marchnata ein gwasanaeth.

______________________

Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth

Nid yw eich gwybodaeth yn cael ei rhannu ag unrhyw drydydd parti. Nid yw data

adborth yn ddienw ond nid yw'n orfodol llenwi'ch enw a'ch manylion cyswllt. 

______________________

Ein sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth

Buddiant cyfreithlon – Mae gennym fuddiant cyfreithlon i ofyn am adborth i’n

helpu i adolygu a gwella ein gwasanaeth.